---
title: "Ap GIG Cymru & NHS login"
canonical: "https://wiki.patientsknowbest.com/space/Llawlyfr/4194075026/Ap%20GIG%20Cymru%20%26%20NHS%20login"
format: markdown
---
> Macro (toc)

# NHS login 

## Defnyddio NHS login i gael mynediad i PKB yn uniongyrchol yng Nghymru

Gall cleifion yng Nghymru dros 16 oed gofrestru a mewngofnodi i PKB gan ddefnyddio eu **NHS login** os yw eu cofnod wedi'i greu. Ar hyn o bryd mae hwn ar gael i ddefnyddwyr ar sail ranbarthol yn unig lle mae’r rhanbarth wedi’i awdurdodi i ddefnyddio NHS login gyda PKB gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW).

## Rhanbarthau

- Bwrdd lechyd Prifysgol Bae Abertawe

## Creu NHS login newydd 

1. Rhowch eich cyfeiriad e-bost unigryw dewisol (ni allwch ddefnyddio un sy'n cael ei rannu â rhywun arall)
2. Crëwch gyfrinair diogel sy’n cynnwys o leiaf wyth nod gydag o leiaf un prif lythyren. Cliciwch ar Parhau.
3. Bydd cod 6 digid yn cael ei anfon at y cyfeiriad e-bost a roesoch. Gwiriwch eich ffolderi sbam neu sothach os na allwch ei weld yn eich mewnflwch.
4. Nodwch y cod 6 digid pan ofynnir i chi wneud hynny.
5. Nodwch eich rhif ffôn symudol. Bydd cod 6 digid yn cael ei anfon at y rhif ffôn a roesoch.
6. Nodwch y cod 6 digid pan ofynnir i chi wneud hynny.
7. Nesaf bydd angen i ni ddod o hyd i'ch cofnod GIG Cymru a'i atodi i'ch cyfrif. Pan welwch ‘Helpwch ni i ddod o hyd i’ch cofnod GIG Cymru’ ar y sgrin, cliciwch Parhau.
8. Gallwch barhau drwy nodi eich rhif GIG, neu eich enw llawn. Dylech chi allu dod o hyd i’ch rhif GIG:
  1. Ar unrhyw lythyr y mae GIG Cymru wedi'i anfon atoch
  2. Ar bresgripsiwn
  3. Ar lythyr brechu
  4. Drwy fewngofnodi i wasanaeth ar-lein practis meddyg teulu
  5. Drwy ofyn i'ch practis meddyg teulu am help
9. Nodwch eich dyddiad geni
10. Nodwch y cod post sydd ar gofnod eich practis meddyg teulu

# Ap GIG Cymru

## Mae integreiddio PKB ac Ap GIG Cymru wedi’i alluogi gan yr ymddiriedolaethau canlynol:

- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe(Dod yn fuan)

## Cofrestrwch ar gyfer PKB o Ap GIG Cymru

## Sefydlu mewngofnodi sengl

## Digwyddiadau a negeseuon

## Llyfrgell / Dolenni iechyd a rannwyd

## Cynlluniau  

## Symptomau 

## Mesuriadau 

## Dyddlyfr

## Canlyniad Prawf<span style="color: #ffffff"> </span>

## Cyrchu gwasanaethau ychwanegol

## Mynediad drwy Ddirprwy

Mae mynediad drwy ddirprwy yn caniatáu i rywun arall, fel arfer aelod o'r teulu, ffrind agos neu ofalwr y gellir ymddiried ynddo i drefnu apwyntiadau, archebu presgripsiynau rheolaidd neu weld cofnod iechyd meddyg teulu ar ran claf.  

Nid yw’r nodwedd hwn ar gael ar hyn o bryd yn Ap GIG Cymru a bydd angen i chi gysylltu â’ch practis meddyg teulu yn bersonol neu dros y ffôn. 

Nid yw Ap GIG Cymru yn cefnogi mynediad drwy ddirprwy ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu bod gallu rhiant, aelod o’r teulu neu ofalwr i gael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal rhywun arall a’u rheoli yn rhan o ddyfodol Ap GIG Cymru.

Rydym yn deall pwysigrwydd mynediad drwy ddirprwy ac rydym yn gweithio i ddatblygu mynediad ac ymarferoldeb gwell i rieni a gofalwyr mewn rhyddhadau Ap GIG Cymru yn y dyfodol.

[Cofrestrwch i gael gwybod pan fydd y gwasanaeth hwn yn fyw.](https://nhswales.qualtrics.com/jfe/form/SV_dgofBGpxd6IwKAC%C2%A0)