---
title: "Stopping use of PKB - Rhoi'r gorau i ddefnyddio PKB"
canonical: "https://wiki.patientsknowbest.com/space/Llawlyfr/4470898689/Stopping%20use%20of%20PKB%20-%20Rhoi'r%20gorau%20i%20ddefnyddio%20PKB"
format: markdown
---
## My hospital has stopped using PKB - what happens to my patient record?

Your record in PKB still remains yours and you can access it exactly as before. PKB will not delete or remove your access to your record at any time.

## Mae fy ysbyty wedi stopio defnyddio PKB - beth sy'n digwydd i'm cofnod claf?

Mae eich cofnod yn PKB yn dal yn eiddo i chi, ac fe allwch ei gyrchu yn union fel o'r blaen. Ni fydd PKB yn dileu neu'n tynnu eich mynediad at eich cofnod ar unrhyw adeg.

## Will I still be able to add information to my record?

You can still add medical information such as measurements, allergies, medicines taken etc. You will also be able to have discussions with any professionals and carers that you have invited into your record yourself (and can continue to invite more). You can also access any previous discussions that you had held with professional, even if their team no longer uses PKB. You will keep access to all of the blood results and clinic letters etc that may have been added to your record as well.

## A fyddaf yn gallu ychwanegu gwybodaeth at fy nghofnod o hyd?

Gallwch barhau i ychwanegu gwybodaeth feddygol fel mesuriadau, alergeddau, meddyginiaethau a gymerwyd, ac ati. Byddwch hefyd yn gallu cynnal trafodaethau gydag unrhyw weithwyr proffesiynol a gofalwyr rydych wedi eu gwahodd i’ch cofnod eich hun (ac fe allwch barhau i wahodd mwy). Gallwch hefyd gael mynediad at unrhyw drafodaethau blaenorol a gawsoch gyda gweithwyr proffesiynol, hyd yn oed os nad yw eu tîm bellach yn defnyddio PKB. Bydd gennych fynediad at yr holl ganlyniadau gwaed a llythyrau clinig, ac ati a allai fod wedi’u hychwanegu at eich cofnod hefyd.

## Will I still be able to send messages and interact with the doctors and nurses on my team at the hospital?

No, if a hospital or team decides that they no longer wish to use PKB then their professionals’ access to the patient’s PKB record stops. This means that they can no longer see any information that you add to your record and that you will not be able to send them messages going forward. Appointment messaging will be switched off for any appointments from that organisation, therefore you will not see the option to send a request to reschedule or cancel your appointment and you will need to contact the organisation outside of PKB to change your appointment. 

## A fyddaf yn gallu anfon negeseuon ac ryngweithio gyda'r meddygon a'r nyrsys ar fy nhîm yn yr ysbyty o hyd?

Na, os yw ysbyty neu dîm yn penderfynu nad ydyn nhw bellach am ddefnyddio PKB, bydd mynediad eu gweithwyr proffesiynol at gofnod PKB y claf yn stopio. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn gallu gweld unrhyw wybodaeth rydych yn ei ychwanegu at eich cofnod, ac ni fyddwch yn gallu anfon negeseuon atynt o hyn ymlaen. Bydd negesu apwyntiad yn cael ei ddiffodd ar gyfer unrhyw apwyntiadau gan yr uned honno, felly ni fyddwch yn gweld yr opsiwn i anfon cais i aildrefnu neu ganslo eich apwyntiad, a bydd angen i chi gysylltu â'r sefydliad y tu allan i PKB i newid eich apwyntiad.

## Will I still receive my blood results into my record?

If you had been receiving your blood and other test results (MRI, CT or clinic letters) directly into your record through automatic transfer from your hospital then this will stop at the point that they choose to no longer use PKB. You are still able to keep all this information in one place in your PKB record, however, by [adding the results manually](https://wiki.hub.patientsknowbest.com/wiki/spaces/MAN/pages/3623977085).

## A fyddaf yn parhau i dderbyn fy nghanlyniadau gwaed yn fy nghofnod?

Os oeddech yn derbyn eich canlyniadau gwaed a phrofion eraill (MRI, CT neu lythyrau clinig) yn uniongyrchol i’ch cofnod drwy drosglwyddiad awtomatig o’r ysbyty, bydd hyn yn stopio pan fyddant yn dewis peidio â defnyddio PKB bellach. Fodd bynnag, gallwch barhau i gadw’r holl wybodaeth hon mewn un lle yn eich cofnod PKB drwy ychwanegu’r canlyniadau’n â llaw.

## If I attend another hospital in the future that uses PKB can I use my same record again?

Absolutely - this is how PKB’s joined up record works. If you attend another hospital or care provider in the future that has PKB they will be able to link your existing record to their team with the click of a button. 

## Os ydw i'n mynychu ysbyty arall yn y dyfodol sy'n defnyddio PKB, a allaf ddefnyddio fy nghofnod presennol eto?

Yn bendant – dyma sut mae cofnod integredig PKB yn gweithio. Os byddwch yn mynychu ysbyty neu ddarparwr gofal arall yn y dyfodol sydd â PKB, byddant yn gallu cysylltu eich cofnod presennol â’u tîm trwy glicio botwm

## My hospital is still using PKB but I no longer want a record - what can I do?

If you no longer want to use your PKB account, you should contact your clinical team who are using PKB. They will be able to contact our support team who can remove your email from your account. This means that you will no longer receive email notifications about changes to your record and you will no longer be able to log into your account.

Just because you have stopped using your PKB account does not necessarily mean the team caring for you will stop. When your email address is removed, it is still possible for professionals to add data, such as diagnoses and allergies, to your record. 

## Mae fy ysbyty yn dal i ddefnyddio PKB ond dydw i ddim eisiau cofnod bellach - beth allaf ei wneud?

Os nad ydych bellach eisiau defnyddio eich cyfrif PKB, dylech gysylltu â'ch tîm clinigol sy'n defnyddio PKB. Byddant yn gallu cysylltu â’n tîm cymorth a all dynnu eich e-bost o’ch cyfrif. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn derbyn hysbysiadau e-bost am newidiadau i'ch cofnod ac ni fyddwch yn gallu mewngofnodi i'ch cyfrif bellach.

Bydd stopio defnyddio eich cyfrif PKB yn golygu nad oes rhaid i’ch tîm gofal wneud yr un peth. Pan fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei dynnu, mae'n dal yn bosibl i weithwyr proffesiynol ychwanegu data, fel diagnosis ac alergeddau, at eich cofnod.